Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2022
Amser:
13.00 -
14.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13286
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Altaf Hussain AS (yn lle Tom Giffard AS) Carolyn Thomas AS Sioned Williams AS |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS wrth i'r Pwyllgor barhau â'i ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Tom Giffard AS, a dirprwyodd Altaf Hussain AS ar ei ran.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
2.1 Derbyniwyd y cynnig.
3 Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Trafod yr adroddiad drafft
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd y dylid ystyried effaith canlyniadau Cyfrifiad 2021, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ar yr ymchwiliad o ran sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i alw am ragor y dystiolaeth ar y mater hwn ac i ddychwelyd ato mewn cyfarfod yn y dyfodol.